Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | Children, Young People and Education Committee

Ymchwiliad i Effaith Brexit ar Addysg Uwch ac Addysg Bellach: Cylch Gorchwyl | Inquiry on the Impact of Brexit on Higher and Further Education

IB-18

Ymateb gan: British Council
Response from: British Council

Crynodeb

Mae effaith Brexit ar addysg uwch a phellach yng Nghymru’n mynd tu hwnt i fynediad i ffactorau diriaethol megis rhaglenni symudedd neu gronfeydd ymchwil. Yr hyn sydd yn y fantol yw ein cyswllt â rhwydweithiau, cydweithwyr a grwpiau diddordeb ar draws yr UE ar y lefel cenedlaethol a rhanbarthol – ein cysylltiadau dynol. Bydd cadw’r cysylltiadau hyn yn hanfodol gan mai trwyddynt gellir rhannu gwybodaeth ac adeiladu partneriaethau.

Erasmus+ sydd yn darparu’r nifer mwyaf o gyfleoedd symudedd i fyfyrwyr mewn prifysgolion yng Nghymru, ac mae’n rhan greiddiol o ddarpariaeth symudedd rhyngwladol Cymru a’r DU, gan gynnig yn flynyddol fwy na 50% (15,000) o holl brofiadau tramor i fyfyrwyr y DU. Mae cannnoedd o academyddion, darlithwyr ac athrawon a miloedd o fyfyrwyr o Gymru wedi elwa o’r rhaglen a chael profiadau academaidd a gyrfaol sydd wedi gwellau eu bywydau. Mae’r profiadau hyn yn gwella cyfleoedd y myfyrwyr i gael swyddi a gyrfaoedd, ac maent yn cael eu gwerthfawrogi’n gynyddol gan gyflogwyr.

Er mwyn parhau i gystadlu’n rhyngwladol, mae rhaid i Gymru feddu ar seiliau ymchwil cadarn i ddenu myfyrwyr ac ymchwilwyr talentog o bedwar ban y byd. Pan fydd y DU yn gadael yr UE, bydd rhaid sicrhau bod peirianwaith effeithiol i ganiatáu i ymchwilwyr geisio am gronfeydd i ddod ag arian i’r DU.

Os na fydd y DU yn gallu cymryd rhan yn y rhaglenni Erasmus+ a Horizon 2020 ar ôl gadael yr UE, mae’n hanfodol y bydd y cyfleoedd ar gyfer pobl ifanc yn cael eu disodli gan opsiynau pwrpasol eraill ar raddfa a chyrhaeddiad tebyg. Mae rhychwant y gweithgareddau hyn, sydd yn cynnwys gwirfoddoli ac ysgolion, yn golygu bydd effaith honedig ar symudedd cymdeithasol ac ar bobl ifanc ‘anodd i’w chyrraedd’ sydd ddim â chyfle arall i gael profiadau tramor.

Yn ogystal â’r manteision economaidd o groesawu myfyrwyr o’r UE yng Ngymru, mae’r sector AU yn elwa o  fod yn ddeniadol i academyddion ac ymchwilwyr o safon uchel o Ewrop a thu hwnt. Mae myfyrwyr a staff o dramor yn gwneud cyfraniad diwylliannol pwysig i Gymru, yn cyfoethogi ein campysau prifysgol a dinasoedd, a thrwy helpu i gadw proffil ac enw da ein sefydliadau. Drwy eu cysylltiad tymor hir a’u cydnawsedd â Chymru, maent yn cyfrannu’n aruthrol i gynyddu grym cymell tawel Cymru.

British Council

Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y DU ar gyfer cysylltiadau diwylliannol rhyngwladol a gafodd ei sefydlu i greu ‘gwybodaeth a dealltwriaeth gyfeillgar’ rhwng pobl y DU a’r byd. Rydym yn gweithio mewn mwy na 100 o wledydd ar draws y byd ac ers y 1940au rydym wedi cefnogi a gweithio mewn partneriaeth â’r sectorau addysg uwch a phellach yng Nghymru i hyrwyddo’r gorau o addysg a diwylliant Cymru yn rhyngwladol drwy ein rhaglenni ym maes addysg a’r celfyddydau.

Mae gan y British Council swyddfeydd yn 24 o’r 28 aelod-wladwriaeth o’r UE. Mae ein diddordebau’n cwmpasu symudedd myfyrwyr y DU a’r UE, creu a hyrwyddo cysylltiadau ymchwil, diwylliannol, a gwyddonol, partneriaethau gyda llywodraethau a sefydliadau eraill, dysgu Saesneg a mynediad i arholiadau a chymwysterau y DU.

Wrth ystyried effaith Brexit ar addysg uwch a phellach yng Nghymru, rydym yn ymwybodol o ffactorau ymarferol a diriaethol megis dyfodol hir-dymor y rhaglenni sydd yn cael eu hariannu gan yr UE (Erasmus+, Horizon 2020) a symudedd pobl, yn ogystal â goblygiadau ehangach ar gysylltiadau personol a diwylliannol.

Calyniadau Dysgwyr a Chyflogadwyedd

Erasmus+ yw rhagen yr Undeb Ewropeaidd sydd yn cynnig cyfleoedd i astudio, gweithio, gwirfoddoli, addysgu a hyfforddi dramor. Amcan y rhaglen yw moderneiddio addysg, hyfforddiant a gwaith gyda phobl ifanc ar draws Ewrop. Yn ogystal â bod y rhaglen symudedd myfyrwyr fwyaf yn y byd, mae’n agored i addysg, hyfforddiant a sefydliadau pobl ifanc a chwaraeon ar draws pob sector addysg gydol oes, gan gynnwys ysgolion, Addysg pellach ac uwch, oedolion a’r sector pobl ifanc. Mae’r rhaglen bresennol yn dod i ben yn 2020, ac mae’n cael ei gweinyddu gan Asiantaeth Genedlaethol y DU (partneriaeth rhwng British Council ac Ecorys UK).

Erasmus+ sydd yn darparu’r nifer mwyaf o gyfleoedd symudedd i fyfyrwyr mewn prifysgolion yng Nghymru i wledydd yn Ewrop a thu hwnt, ac mae’n rhan greiddiol o ddarpariaeth symudedd rhyngwladol Cymru a’r DU, drwy gynnig yn flynyddol fwy na 50% o brofiadau tramor myfyrwyr y DU (mwy na 15,000 o fyfyrwyr). Yn ystod y cyfnod blaenorol (2007-2014), cymerodd ran yn y rhaglen symudedd Erasmus+ fwy na 4,500 o fyfyrwyr a 700 o academyddion a darlithwyr o brifysgolon yng Nghymru. Yn ystod dwy flynedd gyntaf y rhaglen bresennol (2014-2016), mae mwy na 200 o aelodau staff a 1,500 o fyfyrwyr wedi elwa o’r rhaglen (5% o gyfanswm y DU).[1]

Beth yw effaith y gweithgareddau hyn ar Gymru a myfyrwyr Cymru? Mae’r myfyrwyr sydd yn mynd tramor yn fwy tebygol o sgorio’n uwch ym mhob dangosydd allweddol ym maes addysg uwch, o gyrhaeddiad i gyflogadwyedd.[2] Mae 75% o fyfyrwyr Erasmus yn ennill gradd gyntaf neu ail un, o gymharu â 60% o fyfyrwyr sydd ddim wedi astudio neu wirfoddoli yn y DU neu dramor.[3]

Mae profiad rhyngwladol yn helpu pobl ifanc i fod yn fwy cyflogadwy drwy wella’r sgiliau meddal a chaled. Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi sgiliau ieithyddol a’r gallu gan y staff i weithio ar draws diwylliannau, yn ogystal â’r sgiliau meddal a feddir drwy gael profiadau rhyngwladol, megis cyfathrebu, sgiliau meddwl beirniadol a datrys problemau. Ar hyn o bryd, nid yw cyflogwyr yn teimlo bod addysg yn unig yn gallu darparu’r sgiliau rhyngddiwylliannol y mae swyddi modern yn galw amdanynt.[4]

Dangosodd ymchwil yn cynnwys 650 o gwmnïau ar draws Ewrop fod 92% o’r cyflogwyr yn chwilio am nodweddion personol a hyrwyddir gan y rhaglen Erasmus+ megis goddefgarwch, ymddiriedaeth, sgiliau datrys problemau, chwilfrydedd, adnabod cryfderau a gwendidau personol, a phendantrwydd gyda phenderfyniadau recriwtio. Mae un dreian o hyfforddedigion Erasmus+ yn cael gwahoddiad i weithio yn y cwmni ble buont yn gweithio, ac mae graddedigion sydd wedi cymryd rhan yn Erasmus+ yn ddwywaith fwy tebygol o ddod o hyd i swydd yn gyflym ac hefyd 50% yn llai tebygol o fod yn ddi-waith am dymor estynedig.[5]

Mae rhaglenni sydd â’r hyblygrywdd i gynnig lleoliadau wedi eu strwythuro a chefnogaeth mewn gwledydd agos (ac efallai mwy adnabyddus) i’r DU yn fwy llwyddiannus. Gall yr ystod o bosibiliadau symudedd a’r cyllid sydd ar gael drwy Erasmus+ fod yn anodd i atgynhyrchu, ac o ganlyniad gall hyrwyddo symudedd ymhlith grwpiau dan anfantais –sydd yn barod yn llai tebygol o gael y profiadau hynny- fod yn fwy cymhleth.

Bob blwyddyn, mae Erasmus+ yn rhoi arian i 10,000 o ddisgyblion Prydeinig o’r sector addysg alwedigaethol a hyfforddiant gael lleoliadau gwaith cysylltiedig yn uniongyrchol â’u cymwysterau, yn ogystal â 7,500 o bobl ifanc, fel arfer o gefndir difreintiedig, i gael profiad gwirfoddoli tramor. Dywedodd Arweinydd Cwrs o Goleg Sir Gâr bod ‘y cyfle, i rai, yn un cyfoethog iawn gan nad oedden nhw wedi gadael y DU o’r blaen, heb sôn am gael lleoliad gwaith am bythefnos. Mae’r hyder, sgiliau cymdeithasol a’r profiadau diwylliannol y mae’r myfyrwyr yn ennill wedi gwneud y prosiect Erasmus+ yn rhan bwysig o’u llwybr dysgu, ac rydyn ni’n gobeithio bydd yn parhau am flynyddoedd’.[6]

Mae’n hanfodol cynnig cyfleoedd yng Nghymru i bobl ifanc ddatblygu eu golwg ar y byd, gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau a fydd yn eu galluogi i gymryd rhan yn effeithiol yn y farchnad waith sydd yn gysylltiedig yn rhyngwladol. Mae profiadau rhyngwladol yn ffordd o adeilau’r sgiliau hyn.

Os na fydd y DU yn gallu cymryd rhan yn y rhaglenni Erasmus+ a Horizon 2020 ar ôl gadael yr UE, mae’n hanfodol y bydd y cyfleoedd ar gyfer pobl ifanc yn cael eu disodli gan opsiynau pwrpasol eraill ar raddfa a chyrhaeddiad tebyg. Mae rhychwant y gweithgareddau hyn, sydd yn cynnwys gwirfoddoli ac ysgolion, yn golygu bydd effaith honedig ar symudedd cymdeithasol ac ar bobl ifanc ‘anodd i’w chyrraedd’ sydd ddim â chyfle arall i gael cyfleodd tramor

Er bod rhaglenni dwyochrog yn bodoli ac efallai gellir eu hymestyn, o gymryd yn ganiataol y bydd dilyniant i’r rhagen bresennol (mae trafodaethau ar y gweill), rydym yn credu y byddai o fudd mawr pe byddai Cymru a’r DU yn parhau i gymryd rhan (efallai trwy gytuno ar bartneriaeth). Rydym yn meddwl y byddai hyn yn ffordd fwy economaidd ac ymarferol –o gymharu â datblygu rhaglenni dwyochrog niferus o fewn fframwaith amser tynn ac o ystyried maint a chyrhaeddiad cenedlaethol Erasmus+ ar hyn o bryd.

Sefydlogrwydd ariannol a Chyfleoedd Buddsoddi

Mae Cymru a’r DU ag enw da rhyngwladol am yr Addysg Uwch. Maent yn adnabyddus am yr academyddion o safon uchel ac am ddarparu profiad myfyrwyr ardderchog ac amglychedd croesawgar i’r myfyrwyr. Er hynny, mae’r llwyddiant hwn yn dibynu ar y cysylltiadau rhyngwladol a phartneriaethau. Pe byddai’r DU yn creu’r argraff nad yw hi mor groesawgar i fyfyrwyr tramor, byddai hyn yn effeithio ar Gymru ac yn ei rhwystro rhag denu myfyrwyr rhyngwladol a meithrin cydweithio a phartneriaethau tramor.

Mae’r DU yn denu mwy na 442,000 o fyfyrwyr (2016/17) o bedwar ban y byd ar hyn o bryd (gyda 138,000 o’r UE), ac mae’n dod yn ail ar ôl yr UD fel y wlad sydd yn denu’r ganran uchaf o fyfyrwyr tramor yn y byd. Yn wahanol i weddill y DU, gwelodd Cymru ostyngiad yn nifer y myfyrwyr rhyngwladol (21,205), yn dilyn y patrwm o leihad yn y nifer o fyfyrwyr y tu allan o’r UE rhwng 2013/14 a 2016/17 (gwelir yr un patrwm yng Ngogledd Iwerddon).[7]

O ystyried darlun mwy positif, mae myfyrwyr yr UE yng Nghymru ar y nifer uchaf ers 5 mlynedd (6,235). Er Brexit, ni welwyd gostyngiad yn nifer myfyrwyr o’r UE rhwng 2015/16 a 2016/17 (er yr ymgeisiodd y nifer mwyaf o fyfyrwyr sydd yn dechrau eu cyrsiau yn 2016/17 cyn Mehefin 2016). Serch hynny, ar ôl Brexit bydd myfyrwyr yr UE yn gorfod talu ffïoedd myfyrwyr tramor ac mae’n debyg y bydd unrhyw gynnydd yn yr incwm yn cael ei wrthdroi gan gwymp yn y nifer o fyfyrwyr yr UE. Gall fisas costus a rhwystrau mewnfudo gael effaith bellach ar y niferoedd hefyd.

Yn ogystal â’r manteision economaidd o groesawu myfyrwyr o’r UE yng Ngymru, mae’r sector AU  yn elwa o fod yn ddeniadol i academyddion ac ymchwilwyr o safon uchel o Ewrop a thu hwnt. Mae myfyrwyr a staff o dramor yn gwneud cyfraniad diwylliannol pwysig i Gymru, yn cyfoethogi ein campysau prifysgol a dinasoedd a thrwy helpu i gadw proffil ac enw da ein sefydliadau. Drwy eu cysylltiad tymor hir a’u cydnawsedd â Chymru, maent yn cyfrannu’n aruthrol i gynyddu grym cymell tawel Cymru.

Ymhellach, mae sector llwyddiannus prifysgolion y DU yn elwa’n fawr o fod yn atyniadol i academyddion ac ymchwilwyr uchel eu proffil o bedwar ban y byd. Gyda 17% o’r staff academaidd a 6% o staff gwasanaethau proffesiynol o wledydd eraill yr UE,[8] mae’n bwysig na fydd rhwystrau sylweddol i symudedd proffesiynol academaidd a bod neges gyson sydd yn annog a chroesawu staff a myfyrwyr talentog i ddewis Cymru.

Yn Ionawr 2018, dangosodd ymchwilgan LSE fod cyfraniad economaidd net gan fyfyrwyrtramor i’r DU yn

£68,000 ar gyfer pob myfyriwr sydd yn byw yn yr UE yng ngharfan 2015/16, a £95,000 gan fyfyrwyr sydd ddim yn byw yn yr UE. Yn blwmp ac yn blaen, mae 15 myfyriwr o’r UE a 11 sydd ddim o’r UE yn cyfrannu £1m o effaith economaidd net tuag at economi’r DU yn ystod cyfnod eu hastudiaethau.[9] O ganlyniad, byddai  cynyddu’r nifer o fyfyrwyr tramor, a chadw a chynyddu enw da rhyngwladol Cymru drwy ymestyn y bartneriaeth Cymru Fyd-eang (Prifysgolion Cymru, Llywodraeth Cymru, HEFCW a’r British Council) yn dod â buddiannau i Gymru ac hefyd yn cryfhau ei grym cymell tawel.[10]

Mae rhaglenni’r UE wedi parhau i fod o fudd i sefydliadau AU ac AB Cymru. Ers i’r rhaglen bresennol ddechrau yn 2014, mae Cymru wedi elwa o bron €30m drwy Erasmus+, gyda phrifysgolion o Gymru’n derbyn mwy na €13m, y sector Addysg Alwedigaethol a Hyfforddiant (VET) dros €6m, a €6.5m yn y sector ysgolion. Gwelodd y sector VET y cynnydd mwyaf mewn cyllid yng Nghymru yn 2017, gyda cholegau’n derbyn €2.2 o gymharu â €1.3m yn 2016

Mae Llywodraeth y DU wedi datgan y byddai Prydain yn aros yn rhan o Erasmus+ tan diwedd 2020, ond nid yw’n glir beth fydd yn digwydd ar ôl hynny. Mae opsiwn i’r DU fod yn rhan o’r rhaglen, e.e. mae rhai o wledydd sydd ddim yn aelodau o’r UE megis Gwlad yr Iâ, Liechtenstein, Norwy a Twrci’n cael mynediad i’r cynllun Erasmus, ond byddai hyn, wrth gwrs, yn dibynu ar ganlyniadau trafodaethau.

Cronfeydd a Chydweithio Ymchwil ac Arloesi

Mae rhaid i Gymru barhau i fod yn arloesol a chystadlu’n rhyngwladol. Mae hyn yn galw am dalent ac adnoddau byd-eang yn hytrach na chenedlaethol yn unig. Mae’r ansicrwydd o gwmpas argaeledd cronfeydd o’r UE yn y dyfodol yn peryglu gwyddoniaeth a thechnoleg yng Nghymru. Pan fydd y DU yn gadael yr UE, bydd rhaid sicrhau bod peirianwaith effeithiol i ganiatáu i ymchwilwyr talentog ddal i geisio am gronfeydd i ddod ag arian i’r DU, yn ddelfrydol drwy fynediad parhaol i raglenni megis Horizon 2020.

Mae cyfranogiad llwyddiannus Cymru yn y rhaglen hynod gystadleuol Horizon 2020 a rhaglenni blaenorol wedi caniatáu i sefydliadau o Gymru gydweithio ar draws yr UE a chwarae rôl blaenllaw ym maes ymchwil ac arloesi rhyngwladol. Mae sefydliadau o Gymru wedi sicrhau mwy na €83m o gyllid Horizon 2020 ers i’r rhaglen ddechrau. Mae hyn yn cynnwys 191 o gyfranogiadau a 2,000 o gydweithrediadau rhyngwladol.[11]

Mae proffil rhyngwladol llafurlu academaidd y DU yn adlewyrchu gallu’r DU i ddenu talent o dramor ac mae hyn yn cefnogi rhagoriaeth wyddonol y DU. Mae sefydliadau’r DU gyda chanran uwch o ymchwilwyr o dramor ac ymchwilwyr gyda phrofiad rhyngwladol wedi sgorio’n uwch yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) diweddaraf, sydd yn asesu ansawdd ymchwil mewn sefydliadau addysg uwch.[12]

Er mwyn sicrhau seiliau ymchwil cryf mae rhaid denu myfyrwyr ac ymchwilwyr talentog o bob rhan o’r byd. Mae sawl rheswm pam y mae Cymru a’r DU yn ddeniadol i fyfyrwyr ac ymchwilwyr o dramor, gan gynnwys cryfder eu seiliau ymchwil ac amgylchedd cyllido seiliedig ar drylowyder a’r ysbryd cystadleuol seiliedig ar deilyngdod. Serch hynny, gall rhan o’r atyniad hwn fod yn gysylltiedig ag aelodaeth y DU o’r UE, boed hyn am y cronfeydd ariannol ar gael i ymchwilwyr a myfyrwyr sydd yn dod i Gymru, neu’r ffaith fod gwneud ymchwil yng Nghymru’n rhoi mynediad i ymchwilwyr a chyfleusterau ar draws Ewrop.

Mae ymchwilrhyngwladol ar y cyd wedi cynyddu ar draws y sector AU ac er bod aelodaetho’r UE a rhaglenni cyllido’n hwyluso’r cydweithio, mae ymchwilwyr yng Nghymru a’r DU â phartneriaid ar draws y byd. Er bod yr UD yn parhau i fod y wlad bartner bwysicaf, mae cydweithrediad gydag Aelod-Wladwriaethau’r UE wedi cynyddu’n gyflymach na gyda phartneriaid eraill ac mae mwy na hanner y papurau cydweithredol o’r DU â phartneriaid o’r UE.[13]

Mae perygl yn y tymor canolig a hir y bydd atyniad Cymru i’r ymchwilwyr mwyaf talentog fel canolbwynt ar gyfer ymchwil o’r radd flaenaf ac amgylchedd cysylltiedig sydd yn arwain at ddatblygu gyrfaoedd yn crebachu pe byddai’r DU yn methu cael mynediad parhaol i Horizon 2020 neu’r rhaglenni dilynol.

Yn ogystal â rhaglenni ariannu, symudedd academaidd a myfyrwyr ymchwil yr UE, mae’r strwythurau niferus ar draws yr UE, y cysylltiadau, cynadleddau a grwpiau cymheiriaid sydd yn rhan o rwydweithiau prifysgolion Cymru ar y lefel cenedlaethol a rhanbarthol yr un mor bwysig. Bydd cadw’r cysylltiadau hyn yn hanfodol gan mai trwyddynt y mae gwybodaeth yn cael ei rhannu ac mae partneriaethau’n cael eu creu. Mae Cymru Fyd- eang ar hyn o bryd yn archwilio opsiynau i gadw a datblygu cysylltiadau ymchwil yn Ewrop.



[1] Data’r British Council.

[2] https://www.universitiesuk.ac.uk/International/Documents/Stand%20Out%20report_online.pdf

[3] HEFCE (2009) Attainment in Higher Education Erasmus and Placement students. http://www.hefce.ac.uk/data/Year/2009/Attainment,in,higher,education,-,Erasmus,and,placement,students/Title,93230,en.html

[4] LSE Enterprise and CFE Research for British Council (2015) A World of Experience. Ar gael ar-lein. https://www.britishcouncil.org/organisation/policy-insight-research/research/world-experience

[5] European Commission (2014) ‘Erasmus Impact Study confirms EU student exchange scheme boosts employability and job mobility’. Ar gael ar-lein: http://europa.eu/rapid/press-release_IP-14-1025_en.htm?locale=en

[6] https://www.erasmusplus.org.uk/news/erasmus-programme-praised-by-new-minister-for-welsh-language-and-lifelong-learning

[7] https://www.hesa.ac.uk/news/11-01-2018/sfr247-higher-education-student-statistics/location

[8] https://www.universitiesuk.ac.uk/policy-and-analysis/brexit/Pages/brightest-minds.aspx

[9] http://www.hepi.ac.uk/wp-content/uploads/2018/01/Economic-benefits-of-international-students-by-constituency-Final-11-01-2018.pdf

[10] https://wales.britishcouncil.org/en/wales-soft-power-barometer-2018

[11] https://gov.wales/funding/eu-funds/horizon2020/?lang=en

[12] https://royalsociety.org/topics-policy/projects/uk-research-and-european-union/role-of-eu-researcher-collaboration-and-mobility/snapshot-of- the-uk-research-workforce/

[13] https://royalsociety.org/topics-policy/projects/uk-research-and-european-union/role-of-eu-researcher-collaboration-and-mobility/would-international-collaboration-be-affected-if-the-uk-left-the-eu/